Alphabetical Listing
General Information
Climate and Weather
Dartmoor Ponies
Geology and Landforms
History and Archaeology
Information in foreign languages
Land Use and Issues
Recreation and Tourism
Wildlife and Habitats
Work of the National Park Authority
Taflen Ffeithiau Dartmoor
Datblygiad Parciau Cenedlaethol yn y DG
Taflen Ffeithiau Dartmoor (pdf file 44kb)
| Gellir dilyn hanes datblygiad Parciau Cenedlaethol yn y DG dros gyfnod o 150 o flynyddoedd mewn ymateb i dri brîf cymhelliant. Y cymhelliad cyntaf oedd y diddordeb mawr cynnar yng nghefn gwlad a fynegwyd orau gan feirdd rhamantus. William Wordsworth yn Ardal y Llynnoedd, er ei bod yn resyn ganddo fod yna botensial i dyrrau o bobl fynd i’r ardal trwy gyfrwng y rheilffordd, un o’r pethau mwyaf enwog a fynegodd y 1810 oedd bod Ardal y Llynnoedd fel rhyw ‘eiddo cenedlaethol y mae gan bob dyn hawl a diddordeb ynddo, os oes ganddo lygaid i weld a chalon i fwynhau.’ Dechreuodd y cysyniad cyfoes o harddwch naturiol a chadwraeth ddatblygu o ganlyniad i hyn ac fe ffurfiwyd nifer o gymdeithasau gwirfoddol i ddal tir ac i ddadlau dros eu diogelu ac i’r cyhoedd gael hawl i gael mynediad ato. Er enghraifft, ym 1895 sefydlwyd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Lleoedd o Ddiddordeb Hanesyddol a Harddwch Naturiol (a adwaenir yn awr fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) a chanddo bwrpasau tebyg i’r rhai sydd gan y Parciau Cenedlaethol heddiw. | |
Daeth yr ail gymhelliant yn sgil y chwyldroad diwydiannol, pan symudodd pobl i drefi a dinasoedd. Erbyn 1851 yr oedd hanner poblogaeth Lloegr a Chymru yn byw mewn trefi a dinasoedd ac fe ddaeth yr arferiad o gael mynediad i gefn gwlad yn boblogaidd o ran ‘hamddena awyr agored iach’ yn gynyddol boblogaidd. Daeth hyn yn ffactor gynyddol bwysig yn wleidyddol rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail fel y cynyddodd y galw am fynediad am ddim i’r bryniau ac i gefn gwlad agored, ac yr oedd tresmasiad enfawr y Kinder Scout (yn Ardal y Pîc) ym 1932 yn foment tyngedfennol. Y cymhelliad mwyaf oedd mudiad y Parciau Cenedlaethol a ymddangosodd gyntaf yng Ngogledd America, a gafodd ei ysbrydoli i raddau helaeth gan yr Albanwr hwnnw â chanddo weledigaeth, sef John Muir.
Ym 1872 pasiwyd Deddf yn sefydlu Yellowstone fel y Parc Cenedlaethol cyntaf yn y byd, ac wedi i’r gyngres ei gymeradwyo, fe sefydlwyd Parc Cenedlaethol Yosemite yn ddiweddarach. Er bod cysyniad yr Americanwyr o warchod bywyd gwyllt yn dra gwahanol i fodel y DG o Barciau Cenedlaethol rydym yn rhannu’r un syniad o ddiogelu adnoddau pwysig naturiol gwerthfawr.
Daeth y cymhelliannau hyn ynghyd ac ennill momentwm gwirioneddol yn gynnar yn yr 20fed ganrif: yn 1929 fe wnaeth Pwyllgor Addison gynnal y Pwyllgor ymchwiliadol cyntaf i’r syniad o greu Parciau Cenedlaethol yn y DG, ac fe sefydlwyd y Pwyllgor Sefydlog gwirfoddol ar gyfer y Parciau Cenedlaethol, a adwaenir erbyn hyn fel Cyngor y Parciau Cenedlaethol ym 1935. Wrth i Brydain fynd ati i gynllunio ar gyfer y gwaith ail-adeiladu wedi dinistr yr Ail Ryfel Byd, gofynnwyd i John Dower, pensaer, cerddwr ac aelod o’r Pwyllgor Sefydlog dros y Parciau Cenedlaethol i baratoi adroddiad. Argymhelliad Adroddiad Dower i’r Llywodraeth oedd y dylai Parciau Cenedlaethol gael eu sefydlu ynghyd ag asiantaeth Lywodraethol newydd - sef Comisiwn y Parciau Cenedlaethol.
Yr oedd Deddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad* 1949 yn gwneud darparu ar gyfer dynodi Parciau Cenedlaethol yn Lloegr a Chymru. Rhwng 1951 a 1957 cadarnhawyd deg Parc Cenedlaethol. Ym 1989 rhoddwyd statws Parc Cenedlaethol i ardal arall, sef y Norfolk a’r Suffolk Broads. Ym 1999 datganodd y Llywodraeth y bwriad i ddynodi dau Barc Cenedlaethol newydd yn Lloegr (South Downs a’r New Forest). Crëwyd Parc Cenedlaethol y New Forest ym mis Mawrth 2005 a chafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol New Forest ei bwerau llawn ym mis Ebrill 2006.
Yn annhebyg i nifer o Barciau Cenedlaethol eraill mewn gwledydd eraill, fel yr UDA er enghraifft, nid y wladwriaeth sydd berchen ar Barciau Cenedlaethol Lloegr a Chymru. Mae’r term ‘cenedlaethol’ yn golygu eu bod wedi cael eu hadnabod fel lleoedd sydd o bwys yn genedlaethol i’n treftadaeth genedlaethol ac fel y cyfryw maent yn haeddu gwarchodaeth a sylw arbennig. O fewn pob Parc Cenedlaethol y mae nifer o dirberchnogion, gan gynnwys cyrff cyhoeddus ac unigolion preifat. Lleoedd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio yw’r Parciau Cenedlaethol. Pwrpasau statudol y Parciau Cenedlaethol fel y datganwyd yn Neddf yr Amgylchedd 1995 yw:
•Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol. •Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parciau Cenedlaethol. Hefyd y mae’n ddyletswydd ar Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol i geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol. | |
Yn rhinwedd ei harddwch naturiol eithriadol y mae Dartmoor yn un o Barciau Cenedlaethol Lloegr a Chymru. Ac yntau’n cynnwys ardal o 368 milltir sgwâr (954 cilomedr sgwâr), yn Dartmoor y mae’r ardal fwyaf a gwylltaf o gefn gwlad agored yn ne Lloegr.
Topograffi
Pwynt Uchaf.High Willhays 621m
Pwynt Isaf.Pont Doghole 30m
Tir dros 300m (984ft) - 51% o’r Parc Cenedlaethol
Tir dros 460m (1,509ft)13% o’r Parc Cenedlaethol
Daeareg
Mae rhan helaeth o wneuthuriad Dartmoor (65%) yn wenithfaen, carreg igneaidd a ymwthiwyd oddeutu 295 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Amgylchynir y craidd gwenithfaen enfawr hwn gan greigiau gwaddodol gan gynnwys calchfaen, cerrig mân a thywodfaen sy’n perthyn i’r cyfnodau Carbonifferws a Defonaidd. Newidiwyd y rhai agosaf at yr ymwthiad gwenithfaen (fe’u metamorffwyd) gan wres dirdynnol a phwysau ac adweithiau cemegol.
Moelydd / Bryniau a adwaenir fel ‘Tor’.
Mae dros 160 ‘Tor’ yn Dartmoor. Y prif rai yw:
| Tor / Moel / Bryn | Uchder uwchlaw lefel y môr |
| High Willhays | 621 m |
| Yes Tor | 619 m |
| Great Links Tor | 586 m |
| Fur Tor | 572 m |
| Great Mis Tor | 539 m |
| Great Staple Tor | 455 m |
| Haytor | 454 m |
| Hound Tor | 448 m |
| Sharpitor | 402 m |
| Sheeps Tor | 320 m |
| Vixen Tor | 320 m |
Hinsawdd
Dominyddir hinsawdd Dartmoor gan wyntoedd de-orllewinol ac felly mae tuedd iddi fod yn oer ac yn wlyb. Rhostiroedd uchel y gogledd orllewin ac ardaloedd canolbarth deheuol lle mae’r uchder dros 450m (1,500tr) sy’n goddef yr amodau hinsoddol mwyaf garw. | |
Aneddiadau
Y prif aneddiadau yn y Parc Cenedlaethol yw: Ashburton, Buckfastleigh, Moretonhampstead, Princetown, Yelverton, Horrabridge, South Brent, Christow a Chagford.
Mae cyfanswm poblogaeth y Parc Cenedlaethol: oddeutu 33,000
Mae poblogaeth (yr anheddiad mwyaf) oddeutu 3,500.
Y Defnydd Mwyaf a Wneir o Dir
| Rhostir (gan gynnwys pori garw) | 48,450 hectar |
| Ffermdir | 33,041 hectar |
| Coedwig/Coedlan | 11,152 hectar |
| Cronfeydd | 209 hectar |
| Arall (gan gynnwys pentrefi) | 2577 hectar |
| Tir Comin | Oddeutu 34,878 hectar |
Mae Dug Cernyw yn berchen ar 28,328 hectar
Amcangyfrifir bod 20,000 hectar o’r tir y mae Dug Cernyw yn berchen arno yn dir comin
Gwarchodfeydd ac Ardaloedd a Ddiogelir
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
| Coed a Rhostir Dwyrain Dartmoor (yn cynnwys Bovey Valley & Yarner Wood & Trendlebere Down) | 366 hectar |
| Dendles Wood | 29 hectar |
| Black Tor Copse | 29 hectar |
| Wistman's Wood & Longaford Newtake | 170 hectar |
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SODdGAu)
Dynodiad cadwraeth yw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu SODdGA sy’n dynodi ardal a ddiogelir yn y DG. SODdGAu yw sylfaen deddfwriaeth cadwraeth natur ac mae’r rhan fwyaf o’r dynodiadau cadwraeth natur/daearegol yn seiliedig arnynt, gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, Ardaloedd Arbennig a Ddiogelir ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Gelwir y broses o ddynodi safle yn safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn ddynodiad; mae’n cynnwys nifer o gamau, gan gynnwys ymgynghori gyda pherchennog y safle. Os yw safle yn mynd trwy’r broses hon ac yn cael ei ddynodi’n SODdGA dywedir ei fod wedi cael ei "ddynodi". Yr enw cyffredin a roddir ar y safleoedd hynny sydd wedi cael eu dynodi oherwydd eu diddordeb bywydegol yw AODdGAU Bywydegol a’r rhai sy’n cael eu nodi oherwydd eu diddordeb daearegol yn AODdGAU Daearegol. Ychydig o safleoedd sy’n cael eu dynodi o ganlyniad i’w diddordeb bywydegol a daearegol.
Natural England yw’r corff a benodwyd gan y llywodraeth dros ArdaloeddODdGA yn Lloegr.
Mae dros 40 o leoliadau o fewn Parc Cenedlaethol Dartmoor yn cynnwys 26,169 hectar. Mae’r ddau brif safle, sef Gogledd Dartmoor a De Dartmoor yn gwneud cyfanswm o 20,000 hectar.
Gwarchodfeydd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Dyfnaint
| Dart Valley | 290 hectar |
| Lady’s Wood | 3 hectar |
| Dunsford Wood | 57 hectar |
| Mill Bottom | 6 hectar |
| Blackadon | 37 hectar |
| Lower East Lounston | 2,5 hectar |
Perchnogaeth Tir
Ardaloedd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
| Holne Woods | 69 hectar |
| Lydford Gorge | 48 hectar |
| Plym Estate | 237 hectar |
| Teign Valley | 165 hectar |
| Trowlesworthy Warren | 1 349 hectar |
| Hembury | 163 hectar |
| Castle Drogo | 308 hectar |
| Milfordleigh | 7 hectar |
| Wheal Betsy | 1 hecta |
| Woodcock Wood | 8 hectar |
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cynnal hyfforddiant ar 12,906 hectar sy’n cynnwys ardaloedd rhydd-ddaliadol, deiliadaeth trwy brydles a daliad trwyddedig. O’r cyfanswm hwn defnyddir 10,871 hectar ar gyfer dibenion tanio ffrwydriadau ‘byw’.
Mae Cwmni Dŵr South West Water yn berchennog ar 4,421 hectar o dir gan gynnwys 8 cronfa ddŵr.
Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn berchen ar 1,359 hectar o dir ar brydles, yn ogystal â 381 hectar (941 acer) rhydd-ddaliadol.
Mae Dugiaeth Cernyw yn berchennog ar 28,328 hectar.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Dartmoor yn berchen ar 1,451 hectar gan gynnwys:
| Holne Moor & Woods | 783 hectar |
| Haytor | 421 hectar |
| Wray Cleave | 31 hectar |
| Sanduck Wood | 12 hectar |
| Casely Wood | 8 hectar |
| Dendles Waste | 80 hectar |
| Whiddon Scrubbs | 8 hectar |
| Blackingstone Rock | 5 hectar |
| Plasterdown | 93 hectar |
| Trendlebere | 10 hectar |
Henebion Hynafol
Yn y Deyrnas Gyfunol, Heneb Rhestredig yw safle archeolegol neu adeilad hanesyddol sy’n ‘bwysig yn genedlaethol’, sy’n cael ei warchod rhag newid diawdurdod. Mae’r warchodaeth a roddir i heneb restredig arwahan i’r system Gynllunio Gwlad a Thref. Weithiau caiff Henebion Rhestredig eu dynodi fel adeiladau ‘rhestredig’.
Mae tirwedd Dartmoor yn arbennig o bwysig yn archeolegol, gyda dros 10,000 wedi’u cofrestru ar Safleoedd y Sir a’r Gofrestr Henebion . Mae yno dros 1,000 Henebion Hynafol Rhestredig, ac mae’r ffigwr hwn yn codi bob blwyddyn. Mae dros 2,500 o adeiladau sydd wedi’u ‘rhestru’ oherwydd eu diddordeb archeolegol neu hanesyddol hefyd.
*Deddf Seneddol, (Deddf Gyngresol yn yr UDA) neu statud neu ddeddf a basiwyd trwy gyfrwng deddfwriaeth yw hyn.
I gael taflenni ffeithiol eraill gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Dartmoor trwy gyfrwng y Saesneg yna cliciwch ar www.dartmoor-npa.gov.uk/index/learningabout/lab-factsheetshome.htm
Caniateir llungopïo’r cyhoeddiad hwn ar gyfer dibenion addysgiadol o dan y Ddeddf Llungopïo * 1988.
© Awdurdod Parc Cenedlaethol Dartmoor 2008
Page updated 4 April 2008