Taflen Ffeithiau Dartmoor
Datblygiad Parciau Cenedlaethol yn y DG
Taflen Ffeithiau Dartmoor (pdf file 44kb)
| Gellir dilyn hanes datblygiad Parciau Cenedlaethol yn y DG dros gyfnod o 150 o flynyddoedd mewn ymateb i dri brîf cymhelliant. Y cymhelliad cyntaf oedd y diddordeb mawr cynnar yng nghefn gwlad a fynegwyd orau gan feirdd rhamantus. William Wordsworth yn Ardal y Llynnoedd, er ei bod yn resyn ganddo fod yna botensial i dyrrau o bobl fynd i’r ardal trwy gyfrwng y rheilffordd, un o’r pethau mwyaf enwog a fynegodd y 1810 oedd bod Ardal y Llynnoedd fel rhyw ‘eiddo cenedlaethol y mae gan bob dyn hawl a diddordeb ynddo, os oes ganddo lygaid i weld a chalon i fwynhau.’ Dechreuodd y cysyniad cyfoes o harddwch naturiol a chadwraeth ddatblygu o ganlyniad i hyn ac fe ffurfiwyd nifer o gymdeithasau gwirfoddol i ddal tir ac i ddadlau dros eu diogelu ac i’r cyhoedd gael hawl i gael mynediad ato. Er enghraifft, ym 1895 sefydlwyd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Lleoedd o Ddiddordeb Hanesyddol a Harddwch Naturiol (a adwaenir yn awr fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) a chanddo bwrpasau tebyg i’r rhai sydd gan y Parciau Cenedlaethol heddiw. | ![]() |
Daeth yr ail gymhelliant yn sgil y chwyldroad diwydiannol, pan symudodd pobl i drefi a dinasoedd. Erbyn 1851 yr oedd hanner poblogaeth Lloegr a Chymru yn byw mewn trefi a dinasoedd ac fe ddaeth yr arferiad o gael mynediad i gefn gwlad yn boblogaidd o ran ‘hamddena awyr agored iach’ yn gynyddol boblogaidd. Daeth hyn yn ffactor gynyddol bwysig yn wleidyddol rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail fel y cynyddodd y galw am fynediad am ddim i’r bryniau ac i gefn gwlad agored, ac yr oedd tresmasiad enfawr y Kinder Scout (yn Ardal y Pîc) ym 1932 yn foment tyngedfennol. Y cymhelliad mwyaf oedd mudiad y Parciau Cenedlaethol a ymddangosodd gyntaf yng Ngogledd America, a gafodd ei ysbrydoli i raddau helaeth gan yr Albanwr hwnnw â chanddo weledigaeth, sef John Muir.
Ym 1872 pasiwyd Deddf yn sefydlu Yellowstone fel y Parc Cenedlaethol cyntaf yn y byd, ac wedi i’r gyngres ei gymeradwyo, fe sefydlwyd Parc Cenedlaethol Yosemite yn ddiweddarach. Er bod cysyniad yr Americanwyr o warchod bywyd gwyllt yn dra gwahanol i fodel y DG o Barciau Cenedlaethol rydym yn rhannu’r un syniad o ddiogelu adnoddau pwysig naturiol gwerthfawr.
Daeth y cymhelliannau hyn ynghyd ac ennill momentwm gwirioneddol yn gynnar yn yr 20fed ganrif: yn 1929 fe wnaeth Pwyllgor Addison gynnal y Pwyllgor ymchwiliadol cyntaf i’r syniad o greu Parciau Cenedlaethol yn y DG, ac fe sefydlwyd y Pwyllgor Sefydlog gwirfoddol ar gyfer y Parciau Cenedlaethol, a adwaenir erbyn hyn fel Cyngor y Parciau Cenedlaethol ym 1935. Wrth i Brydain fynd ati i gynllunio ar gyfer y gwaith ail-adeiladu wedi dinistr yr Ail Ryfel Byd, gofynnwyd i John Dower, pensaer, cerddwr ac aelod o’r Pwyllgor Sefydlog dros y Parciau Cenedlaethol i baratoi adroddiad. Argymhelliad Adroddiad Dower i’r Llywodraeth oedd y dylai Parciau Cenedlaethol gael eu sefydlu ynghyd ag asiantaeth Lywodraethol newydd - sef Comisiwn y Parciau Cenedlaethol.
Yr oedd Deddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad* 1949 yn gwneud darparu ar gyfer dynodi Parciau Cenedlaethol yn Lloegr a Chymru. Rhwng 1951 a 1957 cadarnhawyd deg Parc Cenedlaethol. Ym 1989 rhoddwyd statws Parc Cenedlaethol i ardal arall, sef y Norfolk a’r Suffolk Broads. Ym 1999 datganodd y Llywodraeth y bwriad i ddynodi dau Barc Cenedlaethol newydd yn Lloegr (South Downs a’r New Forest). Crëwyd Parc Cenedlaethol y New Forest ym mis Mawrth 2005 a chafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol New Forest ei bwerau llawn ym mis Ebrill 2006.
Yn annhebyg i nifer o Barciau Cenedlaethol eraill mewn gwledydd eraill, fel yr UDA er enghraifft, nid y wladwriaeth sydd berchen ar Barciau Cenedlaethol Lloegr a Chymru. Mae’r term ‘cenedlaethol’ yn golygu eu bod wedi cael eu hadnabod fel lleoedd sydd o bwys yn genedlaethol i’n treftadaeth genedlaethol ac fel y cyfryw maent yn haeddu gwarchodaeth a sylw arbennig. O fewn pob Parc Cenedlaethol y mae nifer o dirberchnogion, gan gynnwys cyrff cyhoeddus ac unigolion preifat. Lleoedd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio yw’r Parciau Cenedlaethol. Pwrpasau statudol y Parciau Cenedlaethol fel y datganwyd yn Neddf yr Amgylchedd 1995 yw:
•Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol. •Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parciau Cenedlaethol. Hefyd y mae’n ddyletswydd ar Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol i geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol. | ![]() |
Yn rhinwedd ei harddwch naturiol eithriadol y mae Dartmoor yn un o Barciau Cenedlaethol Lloegr a Chymru. Ac yntau’n cynnwys ardal o 368 milltir sgwâr (954 cilomedr sgwâr), yn Dartmoor y mae’r ardal fwyaf a gwylltaf o gefn gwlad agored yn ne Lloegr.
Topograffi
Pwynt Uchaf.High Willhays 621m
Pwynt Isaf.Pont Doghole 30m
Tir dros 300m (984ft) - 51% o’r Parc Cenedlaethol
Tir dros 460m (1,509ft)13% o’r Parc Cenedlaethol
Daeareg
Mae rhan helaeth o wneuthuriad Dartmoor (65%) yn wenithfaen, carreg igneaidd a ymwthiwyd oddeutu 295 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Amgylchynir y craidd gwenithfaen enfawr hwn gan greigiau gwaddodol gan gynnwys calchfaen, cerrig mân a thywodfaen sy’n perthyn i’r cyfnodau Carbonifferws a Defonaidd. Newidiwyd y rhai agosaf at yr ymwthiad gwenithfaen (fe’u metamorffwyd) gan wres dirdynnol a phwysau ac adweithiau cemegol.
Moelydd / Bryniau a adwaenir fel ‘Tor’.
Mae dros 160 ‘Tor’ yn Dartmoor. Y prif rai yw:
| Tor / Moel / Bryn | Uchder uwchlaw lefel y môr |
| High Willhays | 621 m |
| Yes Tor | 619 m |
| Great Links Tor | 586 m |
| Fur Tor | 572 m |
| Great Mis Tor | 539 m |
| Great Staple Tor | 455 m |
| Haytor | 454 m |
| Hound Tor | 448 m |
| Sharpitor | 402 m |
| Sheeps Tor | 320 m |
| Vixen Tor | 320 m |
Hinsawdd
Dominyddir hinsawdd Dartmoor gan wyntoedd de-orllewinol ac felly mae tuedd iddi fod yn oer ac yn wlyb. Rhostiroedd uchel y gogledd orllewin ac ardaloedd canolbarth deheuol lle mae’r uchder dros 450m (1,500tr) sy’n goddef yr amodau hinsoddol mwyaf garw. | ![]() |
- Glaw Princetown - 2150mm ar gyfartaledd
- Glaw Widecombe-in-the-Moor - 1581mm ar gyfartaledd
- Eira Ar yr iseldir – llai na 5 niwrnod y flwyddyn
- Eira Ar yr ucheldir - 15 - 20 niwrnod ar gyfartaledd
- Eira Ar y copaon – 30 niwrnod ar gyfartaledd
- Heulwen3-4 awr y dydd ar gyfartaledd
Aneddiadau
Y prif aneddiadau yn y Parc Cenedlaethol yw: Ashburton, Buckfastleigh, Moretonhampstead, Princetown, Yelverton, Horrabridge, South Brent, Christow a Chagford.
Mae cyfanswm poblogaeth y Parc Cenedlaethol: oddeutu 33,000
Mae poblogaeth (yr anheddiad mwyaf) oddeutu 3,500.
Y Defnydd Mwyaf a Wneir o Dir
| Rhostir (gan gynnwys pori garw) | 48,450 hectar |
| Ffermdir | 33,041 hectar |
| Coedwig/Coedlan | 11,152 hectar |
| Cronfeydd | 209 hectar |
| Arall (gan gynnwys pentrefi) | 2577 hectar |
| Tir Comin | Oddeutu 34,878 hectar |
Mae Dug Cernyw yn berchen ar 28,328 hectar
Amcangyfrifir bod 20,000 hectar o’r tir y mae Dug Cernyw yn berchen arno yn dir comin
Gwarchodfeydd ac Ardaloedd a Ddiogelir
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
| Coed a Rhostir Dwyrain Dartmoor (yn cynnwys Bovey Valley & Yarner Wood & Trendlebere Down) | 366 hectar |
| Dendles Wood | 29 hectar |
| Black Tor Copse | 29 hectar |
| Wistman's Wood & Longaford Newtake | 170 hectar |
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SODdGAu)
Dynodiad cadwraeth yw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu SODdGA sy’n dynodi ardal a ddiogelir yn y DG. SODdGAu yw sylfaen deddfwriaeth cadwraeth natur ac mae’r rhan fwyaf o’r dynodiadau cadwraeth natur/daearegol yn seiliedig arnynt, gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, Ardaloedd Arbennig a Ddiogelir ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Gelwir y broses o ddynodi safle yn safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn ddynodiad; mae’n cynnwys nifer o gamau, gan gynnwys ymgynghori gyda pherchennog y safle. Os yw safle yn mynd trwy’r broses hon ac yn cael ei ddynodi’n SODdGA dywedir ei fod wedi cael ei "ddynodi". Yr enw cyffredin a roddir ar y safleoedd hynny sydd wedi cael eu dynodi oherwydd eu diddordeb bywydegol yw AODdGAU Bywydegol a’r rhai sy’n cael eu nodi oherwydd eu diddordeb daearegol yn AODdGAU Daearegol. Ychydig o safleoedd sy’n cael eu dynodi o ganlyniad i’w diddordeb bywydegol a daearegol.
Natural England yw’r corff a benodwyd gan y llywodraeth dros ArdaloeddODdGA yn Lloegr.
Mae dros 40 o leoliadau o fewn Parc Cenedlaethol Dartmoor yn cynnwys 26,169 hectar. Mae’r ddau brif safle, sef Gogledd Dartmoor a De Dartmoor yn gwneud cyfanswm o 20,000 hectar.
Gwarchodfeydd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Dyfnaint
| Dart Valley | 290 hectar |
| Lady’s Wood | 3 hectar |
| Dunsford Wood | 57 hectar |
| Mill Bottom | 6 hectar |
| Blackadon | 37 hectar |
| Lower East Lounston | 2,5 hectar |
Perchnogaeth Tir
Ardaloedd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
| Holne Woods | 69 hectar |
| Lydford Gorge | 48 hectar |
| Plym Estate | 237 hectar |
| Teign Valley | 165 hectar |
| Trowlesworthy Warren | 1 349 hectar |
| Hembury | 163 hectar |
| Castle Drogo | 308 hectar |
| Milfordleigh | 7 hectar |
| Wheal Betsy | 1 hecta |
| Woodcock Wood | 8 hectar |
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cynnal hyfforddiant ar 12,906 hectar sy’n cynnwys ardaloedd rhydd-ddaliadol, deiliadaeth trwy brydles a daliad trwyddedig. O’r cyfanswm hwn defnyddir 10,871 hectar ar gyfer dibenion tanio ffrwydriadau ‘byw’.
Mae Cwmni Dŵr South West Water yn berchennog ar 4,421 hectar o dir gan gynnwys 8 cronfa ddŵr.
Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn berchen ar 1,359 hectar o dir ar brydles, yn ogystal â 381 hectar (941 acer) rhydd-ddaliadol.
Mae Dugiaeth Cernyw yn berchennog ar 28,328 hectar.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Dartmoor yn berchen ar 1,451 hectar gan gynnwys:
| Holne Moor & Woods | 783 hectar |
| Haytor | 421 hectar |
| Wray Cleave | 31 hectar |
| Sanduck Wood | 12 hectar |
| Casely Wood | 8 hectar |
| Dendles Waste | 80 hectar |
| Whiddon Scrubbs | 8 hectar |
| Blackingstone Rock | 5 hectar |
| Plasterdown | 93 hectar |
| Trendlebere | 10 hectar |
Henebion Hynafol
Yn y Deyrnas Gyfunol, Heneb Rhestredig yw safle archeolegol neu adeilad hanesyddol sy’n ‘bwysig yn genedlaethol’, sy’n cael ei warchod rhag newid diawdurdod. Mae’r warchodaeth a roddir i heneb restredig arwahan i’r system Gynllunio Gwlad a Thref. Weithiau caiff Henebion Rhestredig eu dynodi fel adeiladau ‘rhestredig’.
Mae tirwedd Dartmoor yn arbennig o bwysig yn archeolegol, gyda dros 10,000 wedi’u cofrestru ar Safleoedd y Sir a’r Gofrestr Henebion . Mae yno dros 1,000 Henebion Hynafol Rhestredig, ac mae’r ffigwr hwn yn codi bob blwyddyn. Mae dros 2,500 o adeiladau sydd wedi’u ‘rhestru’ oherwydd eu diddordeb archeolegol neu hanesyddol hefyd.
*Deddf Seneddol, (Deddf Gyngresol yn yr UDA) neu statud neu ddeddf a basiwyd trwy gyfrwng deddfwriaeth yw hyn.
I gael taflenni ffeithiol eraill gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Dartmoor trwy gyfrwng y Saesneg yna cliciwch ar www.dartmoor-npa.gov.uk/index/learningabout/lab-factsheetshome.htm
Caniateir llungopïo’r cyhoeddiad hwn ar gyfer dibenion addysgiadol o dan y Ddeddf Llungopïo * 1988.
© Awdurdod Parc Cenedlaethol Dartmoor 2008



